|
|
|
||
|
23 Awst 2024 |
Date Dyddiad |
|
|
|
|
Direct Line Rhif Ffon |
|
|
|
claire.homard@flintshire.gov.uk |
email ebost Contact Cyswllt |
|
|
Buffy Williams AS
Cadeirydd, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Annwyl Buffy
Ymchwiliad i Blant a Phobl Ifanc sydd ar yr Ymylon
Diolch i chi am eich llythyr ar 11 Gorffennaf yn gofyn am farn CCAC ar nifer o faterion yn gysylltiedig ag ysgolion sy’n berthnasol i’r Ymchwiliad hwn. Gobeithiaf y bydd yr ymatebion canlynol yn ddefnyddiol i’r Pwyllgor.
Rôl ysgolion fel amgylcheddau amddiffynnol i blant sydd mewn perygl o gael eu gwthio i'r ymylon (h.y. sydd mewn perygl o fynd ar goll, o gael eu troseddoli, neu o gael eu gwthio i'r ymylon mewn rhyw ffordd arall). (Clywsom gan randdeiliaid rheng flaen sy’n gweithio gyda phobl ifanc y camfanteisir arnynt yn droseddol nad oes yr un o’r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw yn mynd i’r ysgol.)
Mae ysgolion yn chwarae rôl hanfodol fel amgylchedd diogel i blant a phobl ifanc, serch hynny mae’r rôl hon yn bwysicach ddisgyblion diamddiffyn. Yn amlach na pheidio, ysgolion yw’r unig gysondeb sydd gan y bobl ifanc hyn, lle mae ffiniau yn glir a disgwyliadau’n uchel. Mae hyn yn gofyn am roi dulliau ychwanegol o gefnogaeth ar waith, gan fod nifer o’r plant a’r bobl ifanc hyn yn arddangos ymddygiad heriol a/neu’n cael anawsterau rheoli eu hemosiynau. Mae datblygu perthnasau cadarnhaol yn hollbwysig wrth ennill ymddiriedaeth gyda’r plant a phobl ifanc er mwy annog presenoldeb a darparu amserlenni pwrpasol gydag ymyraethau priodol i gefnogi eu lles.
Mae ysgolion yn ymwybodol fod ganddynt ddyletswyddau diogelu o ran y plant sydd ar y gofrestr a’u bod yn rhan o’u cymuned. Mae gan y mwyafrif o ysgolion lefel dda o ofal bugeiliol ac yn gwneud addasiadau rhesymol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu dieithrio. Mae disgwyl i ysgolion ddilyn polisïau perthnasol er mwyn lleihau’r risg o ddieithrio, gan gynnwys Cynlluniau Cymorth Bugeiliol, Presenoldeb, Plant sy’n Colli Addysg, Cefnogaeth Tiwtor Dros Dro, EOTAS (Addysg Heblaw yn yr Ysgol) a Diogelu.
Mae nifer o ysgolion yn teimlo bod diffyg adnoddau/capasiti i gefnogi dysgwyr bregus, gyda’r heriau a wynebir wrth gynnal cefnogaeth Cymhorthydd Addysgu Bugeiliol o safon yn gallu effeithio gallu ysgolion i ddarparu’r gwasanaeth gorau yn ddifrifol.
Yn gyffredinol, mae ysgolion yn gwneud defnydd da o ddata Proffil Asesiad Bregus (VAP) yr awdurdod lleol i gefnogi gyda nodi’r sawl sydd mewn perygl o ddatgysylltu, ac mae llwybrau atgyfeirio clir ar gyfer y gwasanaethau cefnogi. Fel rhan o Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid Llywodraeth Cymru, mae’r pwynt cyswllt sengl (y Gweithiwr Arweiniol) yn cael ei ystyried fel cryfder penodol. Mewn rhai ardaloedd, maes ysgolion hefyd yn rhan o’r bartneriaeth atal NEET a/neu baneli strwythur/atgyfeirio eraill sy’n anelu i annog addysg neu leoliadau hyfforddiant perthnasol/pwrpasol a phriodol sy’n arwain at gyfranogiad uwch mewn addysg.
Mewn un awdurdod lleol penodol, gall ysgolion ofyn am gymorth gan dîm Cyd-destunol, Plant sydd ar Goll ac Achosion o Gamfanteisio ar Blant a Masnachu Plant (CMET), a fydd yn cefnogi plant a phobl ifanc (yn unigol neu mewn grŵp) mewn sefyllfaoedd cyd-destunol. Mae CMET yn fenter gan Wasanaeth Plentyn a Theulu yr ALl ac mae’n fforwm gweithredol sy’n dod â sefydliadau proffesiynol ynghyd o bob cwr o’r awdurdod i drafod pryder sy’n ymwneud â niwed sylweddol sy allan i’r teulu (niwed tu allan i’r cartref teuluol). Nid yw hyn yn disodli prosesau diogelu pobl ifanc unigol, ond mae’n nodi’r rôl bwysig sydd gan gymunedau ac asiantaethau partner wrth greu mannau diogel i blant a phobl ifanc yr awdurdod dreulio amser ynddynt drwy gymryd dull mwy cyd-destunol o ddiogelu. Mae’r gwaith hwn yn aml yn cael ei wneud mewn ysgolion.
Os yw plentyn yn gwrthod mynd i’r ysgol, yna bydd pob ysgol mewn awdurdod lleol yn ymwybodol o’r system atgyfeirio i’r Gwasanaeth Lles Addysg. Yn aml iawn, mae’r Gwasanaeth Lles Addysg yn rhan o’r Tîm Lles Addysg a Diogelu ehangach, sy’n sicrhau bod Swyddogion Lles Addysg yn cael mynediad i gyngor clir a chywir am ddiogelu, fel eu bod yn gallu ymateb i anghenion pwrpasol y teulu a’r plentyn neu’r person ifanc mewn perthynas ag absenoldebau o’r ysgol. Mae grant Presenoldeb Llywodraeth Cymru sy’n helpu i gefnogi’r gwaith hwn yn cael i groesawu’n eang.
Ar gyfer plant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu cael mynediad i addysg ffurfiol (ysgol), mae’n rhaid i awdurdodai lleol sicrhau fod ganddynt fynediad i addysg briodol drwy eu systemau EOTAS. Serch hynny, mae cynnydd yn y galw, heb adnoddau ychwanegol perthnasol i fodloni’r galw hwn yn bwysau parhaus mawr ar awdurdodau. Mewn rhai ardaloedd - awdurdodau gwledig er enghraifft - mae llai o ddarparwyr addysg amgen megis hyfforddiant neu sefydliadau dysgu yn y gweithle, sy’n golygu bod dewisiadau yn llai.
Mae ymyraethau lles megis cwnsela, Cefnogaeth Llythrennedd Emosiynol (ELSA), ac Osgoi’r Ysgol ar Sail Emosiwn (EBSA), yn ogystal â chefnogaeth lles ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n cael mynediad i EOTAS, yn gweithio’n dda i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael eu dieithrio. Mae gan bob plentyn a pherson ifanc fynediad i gwnselwyr yn yr ysgol a’r gymuned, drwy hunan-atgyfeiriad ac atgyfeiriad gan weithwyr proffesiynol, gan gynnwys staff dysgu. Mae gan sawl ysgol gefnogaeth gweithiwr ieuenctid a/neu fentor ieuenctid hefyd.
Mae Grant Lles Llywodraeth Cymru’n allweddol i ysgolion ac awdurdodau lleol allu cefnogi eu dysgwyr yn briodol.
Mae tystiolaeth i awgrymu bod gwaharddiadau yn cael effaith sylweddol ar blant a phobl ifanc, a gall hyn eu rhoi nhw mewn perygl ychwanegol o gael eu dieithrio. Mae cyfleoedd i ddiogelu plant a phobl ifanc sy’n cael eu gwahardd yn cael eu methu pan nad ydynt yn yr ysgol, oherwydd bod ychydig llai o oruchwyliaeth o’u lleoliad a’u hymddygiad, sy’n golygu efallai eu bod yn rhydd i wneud fel y mynnent. Mae tystiolaeth i awgrymu hefyd bod gwaharddiad - a gwaharddiad parhaol yn arbennig - yn brofiad llawn trawma i blentyn neu berson ifanc, a all deimlo fel eu bod yn cael eu gwrthod. O safbwynt ysgol, mae hyn yn heriol iawn.
Mae canllawiau mis Ebrill 2024 Llywodraeth Cymru’n[1] egluro bod rhaid ystyried lliniaru sefyllfaoedd - gan gynnwys dieithrio - yn ogystal â sicrhau bod polisi ymddygiad yr ysgol yn seiliedig ar ddulliau o nodi trawma, gydag ymateb uwch ar gyfer gwaharddiadau. Serch hynny, mae’r penderfyniad i wahardd yn parhau i fod dan ddisgresiwn y Pennaeth (neu’r uwch athro sy’n gweithredu yn eu lle pan fo’r angen) a, bob amser, pab mae ymyraethau wedi cael eu gwneud, a phan mae digwyddiadau difrifol o dorri codau ymddygiad wedi digwydd, bydd Pennaeth yn ystyried gwaharddiad parhaol. Mae hyn yn ddealladwy pan mae angen i Benaethiaid gydbwyso iechyd a diogelwch pob disgybl a chymuned yr ysgol gydag anghenion y plentyn neu berson ifanc sy’n cael ei ddieithrio.
Mae gan awdurdodau lleol rôl i sicrhau bod ysgolion yn dilyn proses briodol yn unol â chanllawiau gwahardd Llywodraeth Cymru, ac i herio ysgolion pan maent yn teimlo bod y gwaharddiad yn amhriodol neu heb ei warantu.
Rydym yn teimlo y dylid lleihau defnydd gwaharddiad, mae lle ar gyfer gwahardd mewn achosion difrifol o dorri polisi neu pan mae diogelwch cymuned yr ysgol mewn perygl.
Mae ysgolion yn parhau i gadw dyletswyddau diogelu a phresenoldeb ar gyfer pob disgybl ar eu cofrestr, a dylent fynd i bob cyfarfod yn ymwneud â’r plant a’r bobl ifanc. Staff EOTAS fydd y pwynt cyswllt cyntaf yn y mwyafrif o amgylchiadau, ond dylai ysgolion fod yn rhan o hyn hefyd, gan sicrhau diweddariadau rheolaidd ar gynnydd, neu fel arall, ac ymateb yn briodol. Serch hynny, mae pryderon y gall diffyg adnoddau effeithio gallu ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n mynd ar leoliad EOTAS yn briodol.
Mae ysgolion yn ymwybodol y dylai pob gwaharddiad o’r ysgol fod yn swyddogol ac yn unol â’r canllawiau. Mae hyn yn cael ei gynnwys ymhob hyfforddiant ar gyfer uwch staff ysgolion, llywodraethwyr, a chlercod i’r corff llywodraethu.
Mae gwaharddiad answyddogol yn cyflwyno’r un risg â gwaharddiad swyddogol. Bydd amgylchiadau lle bydd ysgolion yn gallu ffonio gartref ac ati i osgoi gwaharddiad swyddogol, ond mae hyn yn dal i olygu nad yw’r disgybl yn cael mynediad i addysg ffurfiol am gyfnod o amser. Mae’r rhain ar gyfer cyfnodau byrrach yn gyffredinol serch hynny - bydd rhieni yn casglu plant/pobl ifanc a byddant yn mynd adref am weddill y dydd ac yn dychwelyd y diwrnod nesaf. Gan mai ‘dewis’ y rhieni yw hyn yn aml, nid yw’n cael ei ddosbarthu fel gwaharddiad.
Mae hyrwyddo pwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol o fewn sefydliadau addysgol yn hollbwysig er mwyn i blant a phobl ifanc deimlo’n ddigon diogel, hapus a saff i gyfathrebu gyda staff yr ysgol. Gall hyn helpu i leihau gwaharddiadau a gostwng y tebygolrwydd o gamfanteisio, gweithgarwch troseddol a datgysylltiad cyffredinol.
Mae cyllid ar gyfer ysgolion, yn benodol ar gyfer cefnogi plant a allai fod mewn perygl o gael eu dieithrio ac yn agored i gamfanteisio troseddol megis Llinellau Sirol.
Dylai grantiau Llywodraeth Cymru i gefnogi iechyd meddwl a lles, presenoldeb ac ymgysylltiad teuluol barhau a chynyddu yn unol â’r galw.
Cadeirydd CCAC